Image Promo description

Register to use our site and access free newsletters, book events and lots more.

You don't have to be a member to use our site. Already registered? Login here

Become a member today

The Chartered Institute of Housing is the independent voice for housing and the home of professional standards

Galw am gydnabod tai fel hawl ddynol

18/06/2019


Mae tri o fudiadau tai mwyaf blaengar Cymru yn galw am gydnabod yr hawl i dai yng nghyfraith Cymru.

Lansiodd Tai Pawb, CIH Cymru a Shelter Cymru adroddiad a gomisiynwyd ar y cyd yn trafod yr effeithiau cadarnhaol y byddai ymgorffori’r hawl a ddiogelir gan y Cenhedloedd Unedig i dai digonol yn ei gael yng Nghymru wrth helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Daw’r alwad ddwy flynedd ar ôl trychineb Tŵr Grenfell, lle collodd 72 o bobl eu bywydau o ganlyniad uniongyrchol i dai annigonol.

Mewn digwyddiad dan nawdd John Griffiths AC, cadeirydd pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Senedd, clywodd y mynychwyr gan y tri mudiad a chan awdur yr adroddiad, Dr Simon Hoffman (Prifysgol Abertawe). Mae’r adroddiad yn cyflwyno achos cryf dros gydnabod yr hawl i dai yng Nghymru, ac yn dangos sut y byddai o gymorth wrth fynd i’r afael â materion tai allweddol, fel digartrefedd a’r diffyg difrifol mewn tai fforddiadwy a hygyrch.

Yn siarad ar ôl y digwyddiad, meddai cyfarwyddwr Tai Pawb, Alicja Zalesinska,:

“Credwn fod rhaid i ymrwymiad cenedlaethol i’r egwyddor y dylai fod hawl ddynol gan bawb – wedi’i wreiddio yn y gyfraith – i gael mynediad at dai digonol a chynaliadwy fod yn greiddiol i unrhyw ddatrysiad i’r argyfwng tai yng Nghymru. Mae arnom angen gweledigaeth a fframwaith cyfreithiol a fyddai’n ein helpu i arwain at newid sylfaenol yn ein canfyddiad o dai – hynny yw, eu bod yn greiddiol i urddas bob person, ac mai deiliaid hawliau yw pobl mewn angen, nid derbynwyr elusen.”

Mae’r adroddiad yn dangos sut byddai’r hawl i dai yn helpu i ddatrys problemau fel y diffyg tai hygyrch, ac yn ei gwneud yn ofynnol i ganolbwyntio ar y rhai sydd â’r angen mwyaf am dai.

Bu Jillian Wadley, tenant anabl yn byw yng Nghwmbrân, gynt yn byw mewn tŷ a oedd yn anhygyrch.

“Roeddwn i’n cael anhawster gwirioneddol yn y cyfnod hwnnw, gyda thasgau y mae llawer o bobl yn eu cymryd yn ganiataol. Er enghraifft, heb lifft grisiau, roeddwn i’n gorfod dringo’r grisiau gyda chymorth fy ngŵr yn fy nal, ond yn aml byddai fy nghefn yn mynd ac mi oeddwn i’n disgyn i lawr. Yn y pen draw, fe drefnodd ein landlord i ffitio lifft grisiau nes daethpwyd o hyd i gartref addas i ni.

“Cymerodd 3 blynedd i ni gael ein hailgartrefu i eiddo y gellid ei addasu ar gyfer ein teulu ac, er nad oedd o reidrwydd yn hygyrch, roedd modd ei addasu i fy anghenion.

“Mae’n ymddangos bron ei bod yn iawn i rywun fod yn anabl cyn belled nad oes gennych chi blant, oherwydd mae llawer o gartrefi sy’n hygyrch neu wedi’u haddasu yn rai gyda dim ond un neu ddwy ystafell wely. Mae angen i ni adeiladu llawer mwy o gartrefi hygyrch, ond fel mae pethau’n sefyll, nid oes unrhyw gynlluniau clir i wneud hynny. Mae angen mynd i’r afael â hyn gan fod cymaint o bobl anabl sy’n byw mewn eiddo nad yw’n addas i’w hanghenion.”

Wrth fabwysiadu dull wedi’i seilio ar hawliau o ymdrin â thai, byddai Cymru yn dilyn nifer gynyddol o wledydd lle mae’r hawl i dai yn egwyddor gyfansoddiadol, yn cynnwys y Ffindir, lle mae digartrefedd wedi disgyn gan 35 y cant ers 2010. Mewn cyfnod tebyg, mae digartrefedd yng Nghymru wedi codi gan 63 y cant .

Yn cyfeirio at yr adroddiad, meddai cyfarwyddwr CIH Cymru, Matt Dicks:

“Dyma gyfle i ailfywiogi a rhoi ail bwrpas i’r ymrwymiad gwreiddiol i ddarparu’r hawl ddynol sylfaenol honno – rhywle diogel i’w alw’n gartref – trwy fabwysiadu dull wedi’i seilio ar hawliau o ymdrin â thai ac ymgorffori’r ‘Hawl i Dai Digonol’ yn gyfan gwbl yng nghyfraith Cymru. Gallwn edrych ar esiamplau rhyngwladol, yn cynnwys Canada, De America, yr Unol Daleithiau a’r Ffindir, lle mae’r hawl i dai wedi’i ddiogelu, mewn amrywiol ffyrdd, yn narpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, ynghyd â datblygiadau diweddar yn yr Alban, a’u defnyddio fel llwyfan ar gyfer gwthio’r agenda hawliau yn ei blaen yng Nghymru.”

Ychwanegodd John Puzey, cyfarwyddwr Shelter Cymru:

“Byddai hawl i gartref, wedi’i ddiogelu gan gyfraith Cymru, yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl wasanaethau cyhoeddus roi’r sylw dyledus i hawliau dynol pobl a byddai’n arwain at newid cadarnhaol yn nifer o’r penderfyniadau hynny sy’n gyrru pobl i ddigartrefedd. Byddai hawl o’r fath hefyd yn cynyddu gallu dinasyddion i herio penderfyniadau gwael a arweiniodd at eu gwneud yn ddigartref yn y lle cyntaf.”

Mae’r adroddiad yn nodi dechrau ymgyrch ar y cyd gan y tri mudiad ar yr hawl i dai, a fydd hefyd yn cynnwys ymgysylltu â’r sector ac ymgysylltu’n ehangach cyn etholiadau nesaf y Cynulliad, sydd wedi’u hamserlennu ar gyfer 2021.


Please log in to comment

Your comments

No comments made yet
 

Join today

We’re here to help you make a difference. Join CIH today and discover your potential

 

Fire safety

All the latest info and fire safety resources for housing professionals

 

The new housing apprenticeships

With a century of experience equipping housing professionals with the skills they need to do the brilliant work they do, we can help you make the most of the new housing apprenticeships – whatever stage of the journey you are at.