27 Sep 2022

Bydd yr hawl i dai digonol yn arbed £11.5biliwn i Lywodraeth Cymru

Byddai cyflwyno hawl i dai digonol yn arwain at arbedion sylweddol i bwrs y wlad.

Dyna’r prif ganfyddiad a wnaethpwyd gan ymgyrch Cefnogi'r Bil wrth iddo gyhoeddi ail gam yr ymchwil i effeithiau cymdeithasol ac economaidd ar yr hawl i dai digonol yng Nghymru.

Wedi’i gomisiynu gan bartneriaid Cefnogi’r Bil (Tai Pawb, Shelter Cymru a CIH Cymru), mae’r dadansoddiad annibynnol – a gynhaliwyd gan Alma Economics – yn nodi buddion i bwrs y wlad sy’n werth £11.5bn yn erbyn y costau cyffredinol o £5bn dros gyfnod o 30 mlynedd. Rhagwelir y gallai'r buddion hynny ddechrau mynd yn drech na’r costau ar ôl dim ond chwe blynedd.

Am bob £1 sy’n cael ei gwario ar yr hawl i dai digonol, mae’r papur yn tynnu sylw at y ffaith y ceir £2.30 o fuddion. Byddai hyn yn:

  • arbed £5.5bn ar wella llesiant;
  • arbed £2bn o gyllidebau cynghorau lleol;
  • arbed £1bn i’r GIG;
  • arbed £1bn i’r system cyfiawnder troseddol; ac yn
  • cynhyrchu £1bn o weithgarwch economaidd ychwanegol;

O ran iechyd a lles, er enghraifft, mae’r adroddiad yn nodi y byddai gwella ansawdd ac addasrwydd cartrefi yn arwain at lai o dderbyniadau i’r ysbyty; yn yr un modd, gyda chynnydd graddol yn nifer y cartrefi addas sydd ar gael, byddai llai o ddibyniaeth ar wasanaethau cyngor a gwasanaethau cymorth digartrefedd eraill, gan arwain at arbedion pellach i bwrs y wlad.

Mae’r ymgyrch ‘Cefnogi'r Bil’ yn galw am gyflwyno’r hawl i dai digonol yn raddol, gan ddechrau gyda’r ‘Ddeddf Hawl i Dai’ i yrru’r buddsoddiad hirdymor sydd ei angen, flwyddyn ar ôl blwyddyn, er mwyn i bawb yng Nghymru allu byw mewn cartref da y gallant ei fforddio.

Yn eu hadroddiad, mae Alma Economics yn dangos sut byddai’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn cefnogi blaenoriaethau pwysig i Lywodraeth Cymru a phobl Cymru, fel datgarboneiddio’r stoc dai ledled Cymru erbyn 2050 a darparu cartrefi sy’n addas ar gyfer y boblogaeth sy’n heneiddio. Hefyd, byddai hawl i dai digonol yn ysgogi camau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau drwy leihau gorlenwi a chefnogi pobl anabl yn well i gael mynediad at gartrefi sy’n diwallu eu hanghenion.

Mae’r ymchwil yn amserol a bydd yn cefnogi’r gwaith tuag at Bapur Gwyn gan y llywodraeth ar gynigion ar gyfer hawl i dai digonol; mae’r Papur Gwyn yn ymrwymiad i’w groesawu yng nghytundeb cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Mewn ymateb i'w gyhoeddiad, dywedodd Alicja Zalesinska (Prif Weithredwr Tai Pawb), Ruth Power (Prif Swyddog Gweithredol – Shelter Cymru) a Matt Dicks (Cyfarwyddwr – CIH Cymru):

“Rydyn ni'n croesawu canfyddiadau'r ymchwil heddiw gan mai dyma'r dystiolaeth fwyaf clir o'r llu o fuddion fyddai’n dod yn sgil cyflwyno hawl i dai digonol yng Nghymru.

 “Mae’r adroddiad yn nodi synergedd rhwng yr hawl i dai digonol ac ymrwymiadau polisi tai presennol, fel datgarboneiddio, rhoi diwedd ar ddigartrefedd a chymorth i boblogaeth sy’n heneiddio. Mae pwysau sylweddol yn wynebu llawer o deuluoedd sy’n ddigartref neu mewn cartrefi o ansawdd gwael neu gartrefi anfforddiadwy wrth inni nesáu at y gaeaf; credwn yn gryf y bydd hawl i dai digonol, dros amser, yn helpu i greu Cymru lle gall pobl ddibynnu ar gael cartref da y gallant ei fforddio, ac sy’n diwallu eu hanghenion sylfaenol.

“Mae’r ffaith y gallai’r buddion fod yn drech na'r costau o fewn chwe blynedd i’r hawl i dai digonol gael ei gyflwyno yn dangos bod prinder cartrefi da yn cael effaith sylweddol ar draws sawl maes o wariant cyhoeddus. Y cwestiwn nawr yw ‘Pam na fyddem yn cyflwyno hawl i dai digonol yng Nghymru?’.

“Gall Cymru arwain y ffordd yn ei dull o ymdrin â thai fel hawl dynol – ac felly edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid i helpu i siapio’r cynigion sydd ar y gweill yn y Papur Gwyn ar yr hawl i dai digonol.

“Dros amser, gall pawb yng Nghymru gael cartref da. Mae’r ymchwil annibynnol a gyhoeddwyd heddiw yn dangos nad yw hyn yn gwneud synnwyr moesol yn unig, ond ei fod yn gwneud synnwyr i pwrs y wlad hefyd”.

NODIADAU I OLYGYDDION
  • I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad hwn i’r wasg, yr ymchwil a’r ymgyrch Cefnogi'r Bil, cysylltwch â:
  • Bydd yr ymchwil yn cael ei lansio ddydd Mawrth 27 Medi 2022 rhwng 12:00 a 13:00 yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ac fe gynhelir y digwyddiad ar y cyd gan John Griffiths AS a Mabon ap Gwynfor AS
  • Mae Tai Pawb yn gweithio i hybu cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ym maes tai yng Nghymru. Rydym yn dychmygu Cymru lle mae gan bawb yr hawl i gael cartref da taipawb.org
  • Mae CIH Cymru yn cefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes tai i greu dyfodol lle mae gan bawb le i’w alw’n gartref. Ni yw'r corff proffesiynol ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes tai, y llais annibynnol dros dai a chartref safonau proffesiynol cih.org
  • Mae Shelter Cymru yn bodoli i amddiffyn yr hawl i gartref diogel. Rydym yn helpu miloedd o bobl bob blwyddyn yng Nghymru drwy gynnig cyngor annibynnol am ddim sheltercymru.org.uk
  • Mae ail gam a cham olaf yr ymchwil yn ategu ar bapur a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021, a oedd yn canolbwyntio ar gymariaethau rhyngwladol – gan gynnwys enghreifftiau o’r Ffindir, Canada a De Affrica – gan dynnu sylw at arferion da a gwersi gwerthfawr ar draws amrywiaeth o ddulliau. Daeth y rhan honno o’r ymchwil i’r casgliad y gall Cymru arwain y ffordd fel esiampl ryngwladol yn ei dull o ymdrin â thai fel hawl dynol. Daeth hyn yn sgil ymchwil a gynhaliwyd gan CIH Cymru a Phrifysgol Caerdydd a ddangosodd bod tua 77% o bobl yn cefnogi’r hawl i gael tai yng Nghymru.
  • Ym mis Rhagfyr 2020, fe aeth llofnodwyr allweddol o’r gymuned dai, cynrychiolwyr etholedig a chomisiynwyr, academia, yr elusen a’r trydydd sector ati i gefnogi’r Bil Drafft ar yr hawl i dai digonol yng Nghymru