16 Mar 2022

CIH yn buddsoddi yn y Gymraeg

Rydym yn falch o rannu bod gwefan CIH bellach yn gwbl ddwyieithog, sy'n golygu y gall aelodau yng Nghymru gael mynediad i gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Yn 2019, cymeradwyodd Bwrdd Llywodraethu CIH ein polisi Iaith Gymraeg ar ei newydd wedd a gynhyrchwyd mewn partneriaeth ag aelodau yng Nghymru. Wrth wraidd y polisi oedd yr ymrwymiad i wella faint o gynnwys Cymraeg a gynigir dros amser.

Yn siarad am y newidiadau heddiw, dywedodd cyfarwyddwr cenedlaethol CIH Cymru, Matt Dicks, "Yn CIH, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad yn ein sefydliad, ar draws ein haelodaeth ac ar draws y sector tai.

“Mae gennym tua 1,000 o aelodau yng Nghymru ac mae llawer ohonynt yn byw eu bywydau personol a phroffesiynol trwy eu hiaith gyntaf, sef y Gymraeg.

“Mae'r newid hwn i'n gwefan yn digwydd yn sgil ein gwaith diweddar mewn partneriaeth â Choleg Gŵyr i gyfieithu ein prif gynnwys cymwysterau i'r Gymraeg gyda chymorth cyllid grant gan Gymwysterau yng Nghymru (QiW).

“Mae cynwysoldeb wrth wraidd ein hethos fel sefydliad a byddwn yn parhau i weithio gydag aelodau yng Nghymru i ddatblygu ein gwasanaethau dwyieithog ymhellach.”