07 Mar 2024

Ymgysylltu cymunedol yn hanfodol i ddatblygu mwy o dai cymdeithasol yng Nghymru

Mae’r adroddiad diweddaraf gan y prosiect ymchwil polisi tai – Tyfu Tai Cymru (TTC) – yn honni y gallai prinder tai parhaus gael ei liniaru drwy fynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig â thai cymdeithasol a chynyddu ymgysylltiad cymunedol.

Mae'r prosiect ymchwil, a ariennir gan Sefydliad Oak ac a reolir gan Sefydliad Tai Siartredig (CIH) Cymru, yn anelu at ddarparu dadansoddiad craff i archwilio rhwystrau a chefnogi datblygiad polisi tai Cymru. Mae’r papur diweddaraf, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw, yn ymchwilio i’r materion yn y system ddatblygu sy’n llesteirio'r cyflenwad tai. 

Dengys y canfyddiadau allweddol fod:

  • Prinder tai cymdeithasol a'r galw cynyddol yn cyfyngu'n ddifrifol ar gyfleoedd i ddewis, gan greu gwrthdaro rhwng asesiad caled, isafol o angen a chreu cartrefi dymunol a chynaliadwy.
  • Ymgynghori, er ei fod yn rhan annatod o brosesau mabwysiadu cynlluniau datblygu lleol a cheisiadau cynllunio unigol, yn gyfyngedig am ei fod yn dibynnu ar unigolion i fod yn rhagweithiol wrth fynegi eu barn.
  • Stigma sy'n gysylltiedig â thai cymdeithasol yn aml yn cael ei fynegi drwy'r broses gynllunio.

Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru a’r sector tai ehangach ar sut i gynnwys cymunedau wrth gynllunio datblygiadau tai a chyfrifo’r angen lleol am dai gan gynnwys y canlynol:

  • Mae hwyluswyr tai'n chwarae rôl bwysig mewn ardaloedd gwledig, drwy ddarparu pwynt cyswllt annibynnol rhwng y gymuned a'r landlord datblygu.
  • Mae angen i gymunedau fod yn rhan o gyfrifo anghenion tai er mwyn sicrhau bod y cartrefi cywir yn cael eu hadeiladu yn y lle cywir.
  • Gostwng a dileu stigma o ran datblygiadau tai cymdeithasol presennol ac arfaethedig.
  • Gwneud ymgysylltu â chymunedau'n rhan orfodol o’r broses grant tai cymdeithasol 

Wrth wneud sylwadau ar arwyddocâd canfyddiadau’r adroddiad, meddai Cerys Clark, rheolwr polisi a materion cyhoeddus CIH Cymru:

“Ni all neb wadu bod Cymru yng nghanol argyfwng tai gyda phrinder sylweddol o dai cymdeithasol a fforddiadwy. Er hynny, mae datblygiadau newydd yn aml yn wynebu gwrthwynebiad yn deillio o'r stigma sydd yn aml yn gysylltiedig â thai cymdeithasol. Mae'r adroddiad hwn yn dangos i ni, os ydym am gynyddu datblygiad a lleihau stigma tai cymdeithasol, fod angen i ni gynnwys cymunedau ym mhob cam o'r broses ddatblygu. Trwy wneud hyn gallwn sicrhau bod y cartrefi cywir yn cael eu hadeiladu yn y lle cywir fel bod pawb yn gallu cael mynediad i gartref o’u dewis, o fewn cymuned o’u dewis, sy’n addas, yn ddiogel ac yn fforddiadwy.”

Tyfu Tai Cymru

Mae Tyfu Tai Cymru'n brosiect ymchwil polisi 5 mlynedd a ariennir gan Sefydliad Oak – mae rhagor o wybodaeth am y prosiect a’i waith ar gael yma.